Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2026
Amser:
08.56 -
09.31
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan AS Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Steffan Lewis (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Marc Wyn Jones, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:
Gofynnodd Heledd Fychan a yw'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno datganiad llafar ar y weledigaeth ar gyfer rheilffyrdd ledled Cymru yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar y pwnc hwn a gyhoeddwyd ddoe. Cytunodd y Trefnydd i ystyried y mater.
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y trafodaethau a gynhaliwyd ynghylch y ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yng nghyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y diwrnod cynt.
Dydd Mercher
Trafododd a nododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer pan fydd y Cyfarfod Llawn yn dychwelyd i'r Senedd o'r wythnos hon ymlaen.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026
Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 18 Mawrth 2026 –
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gais gan Mark Isherwood AS i drefnu'r ddadl a'r bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn gynharach yn y trafodion ar 11 Mawrth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ofyn am ragor o wybodaeth gan yr Aelod ynghylch y rhesymau dros y cais.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i:
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes i ystyried adborth gan grwpiau gwleidyddol ar opsiynau ar gyfer newidiadau yn y dyfodol i drefniadau ar gyfer pleidleisio o bell yn ystod y Cyfarfod Llawn, yn dilyn ystyriaeth flaenorol yn y cyfarfod ar 3 Chwefror.
Dywedodd Heledd Fychan fod grŵp Plaid Cymru yn cefnogi cadw pleidleisio o bell a chyfranogiad o bell mewn trafodion y Cyfarfod Llawn. Mae'r grŵp yn agored i'w gwneud yn ofynnol i Aelodau ddewis un dull o gyfranogi fesul pob Cyfarfod Llawn a/neu gyflwyno terfyn ar nifer, neu gyfran, yr Aelodau sy'n gallu pleidleisio o bell, gyda mesurau diogelwch priodol i sicrhau y gellir amddiffyn anghenion penodol Aelodau sydd â gofynion ychwanegol neu gyfrifoldebau gofalu.
Cadarnhaodd y Trefnydd fod grŵp Llafur Cymru hefyd yn cefnogi cadw pleidleisio o bell a chyfranogiad o bell. Dywedodd y Trefnydd fod mwyafrif o fewn y grŵp o blaid cadw'r trefniadau presennol, gyda rhywfaint o gefnogaeth yn cael ei mynegi i'w gwneud yn ofynnol i Aelodau ddewis un dull o gyfranogi fesul Cyfarfod Llawn oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.
Ailadroddodd Paul Davies fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig o blaid terfynu’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad o bell a phleidleisio o bell.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i: